Y Pwyllgor Deisebau

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2014

 

 

 

Amser:

09.02 - 10.00

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_17_06_2014&t=0&l=cy

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

William Powell (Cadeirydd)

Russell George

Bethan Jenkins

Joyce Watson

 

 

 

 

 

Tystion:

 

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Steve George (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

 

 

<AI1>

1   Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

 

</AI1>

<AI2>

2   Deisebau newydd

 

</AI2>

<AI3>

2.1     P-04-558 GWAHARDD E-SIGARÉTS I BOBL IFANC O DAN 18 OED

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am y ddeiseb; a'r

·         deisebydd, gan dynnu sylw at ddatganiad diweddar y Gweinidog ar y mater.  

</AI3>

<AI4>

2.2     P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Addysg a Sgiliau a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

·         pob Bwrdd Iechyd Lleol; a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

</AI4>

<AI5>

2.3     P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a

·         phob Bwrdd Iechyd Lleol

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

</AI5>

<AI6>

2.4     P-04-561 Hyrwyddo rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru i annog pobl i gymryd rhan

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac

·         Undeb Rygbi Cymru

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

</AI6>

<AI7>

2.5     P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac

·         Chyngor Gwynedd

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

</AI7>

<AI8>

2.6     P-04-563 Y ddarpariaeth o wasanaethau yng ngorsaf dân Pontypridd

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth; a

·         Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

i ofyn eu barn am y ddeiseb. Roedd y Pwyllgor yn arbennig o awyddus i glywed barn y Gweinidog ar sut y byddai argymhellion adolygiad Williams o lywodraeth leol yn effeithio ar Awdurdodau Tân.

 

</AI8>

<AI9>

2.7     P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am y ddeiseb; a

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

</AI9>

<AI10>

2.8     P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i ofyn am eu barn am y ddeiseb.

 

</AI10>

<AI11>

2.9     P-04-566 Adolygu'r Cod Derbyn i Ysgolion

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a

·         Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

i ofyn eu barn am y ddeiseb.

 

</AI11>

<AI12>

3   Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

 

</AI12>

<AI13>

3.1     P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

 

Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio cyfreithiol ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drafod y ddeiseb ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

</AI13>

<AI14>

3.2     P-04-530 Labelu Dwyieithog

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         i gau'r ddeiseb am ei bod yn glir na all y Gweinidog gydymffurfio â'r hyn y mae'r deisebydd yn gofyn amdano; ac

·         wrth wneud hynny, i dynnu sylw Aelodau Senedd Ewrop o Gymru at y ddeiseb.

</AI14>

<AI15>

3.3     P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog, yn unol â chais y deisebydd, i ofyn a ellir:

 

·         gwahodd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru i drefnu bod un o'i chynrychiolwyr  yn rhan o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen y mae'r Dirprwy Weinidog wrthi'n ei ffurfio; a

·         sicrhau bod adroddiad ac argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael eu cyhoeddi maes o law.

</AI15>

<AI16>

3.4     P-04-397 Cyflog Byw

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

ysgrifennu at y Gweinidog gan ofyn am sicrwydd y caiff y mater ei drafod yng nghyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a drefnwyd ar gyfer mis Medi; ac

aros am ganlyniad y cyfarfod hwn.

 

 

 

 

</AI16>

<AI17>

3.5     P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn am ymateb gan y deisebydd i lythyr y Gweinidog; ac

·         aros am y wybodaeth bellach a addawyd gan y Gweinidog.

 

</AI17>

<AI18>

3.6     P-04-496 Ysgolion pob oed

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na fu'r deisebydd mewn cysylltiad ers cryn amser.

 

</AI18>

<AI19>

3.7     P-04-511 Cefnogi'r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         ofyn i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddau argymhelliad a wnaed gan y deisebwyr ynghylch cefnogi'r 'nod barcud'; a

·         gofyn i Achub y Plant ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor.

</AI19>

<AI20>

3.8     P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog, gan anfon copi o ohebiaeth ddiweddar y deisebydd;

·         Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan dynnu sylw at y ddeiseb; a'r

·         rhanddeiliaid canlynol i ofyn eu barn am y ddeiseb:

o   Cyngres Undebau Llafur Cymru;

o   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a

o   Llywodraethwyr Cymru.

 

 

</AI20>

<AI21>

3.9     P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy'n addas at y diben

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Arolygydd Ysgolion, yn gofyn ei barn am ohebiaeth y deisebydd.

 

</AI21>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>